Arts Featured

Oriel Wrecsam is moving

522083_391290027701066_4408682096477915244_n
Posted by mike

After 42 years on Rhosddu Road Oriel Wrecsam is in the process of moving from its current location within the library to a new, larger, purpose built gallery in Wrexham town centre. From 1st April 2015 Oriel Wrecsam will embark upon a period of peripatetic project making across various temporary venues and sites in Wrexham.

During this period the shop, ‘Siop//Shop’, will have a new semi-permanent home:
11 Chester Street,
Wrexham
LL13 8BE

‘Siop//Shop’ stocks a range of visual and applied arts from local makers and artists as well as a diverse range of designers from across the UK. A seasonally curated selection of books, prints, ceramics, jewellery and giftware to complement our ongoing exhibitions and projects will be displayed in a contemporary, warm and friendly environment.

‘Siop//Shop’ will open on Chester Street on Wednesday 22nd April with a series of in-store events, including a 20% discount of all shop stock for a four-day period, to coincide with the launch of this year’s Focus Wales music festival.
Please complete our short survey (https://www.surveymonkey.com/s/3Y2KP8P) to express your views on the move, and the impact it may have on you.

Oriel Wrecsam is Moving

To celebrate the end of a long association between Wrexham Library and Oriel Wrecsam (previously known as Wrexham Library and Art Centre), the gallery will be hosting a moving party on March 28th, the last day of inhabiting the gallery on Rhosddu Road.

Since 1973, Oriel Wrecsam has presented engaging, exciting and sometimes controversial exhibitions to the general public of Wrexham and further afield. We have also cultivated strong links with the communities around Wrexham and specifically with users of the library. The event, ‘Oriel Wrecsam is Moving’ will celebrate all these things that makes the art in Wrexham great, whilst also looking to the future and the further development of this town’s cultural offering.

Featuring a live DJ, film screenings, a performative walk and the launch of our new Art Vend project; whereby specially commissioned works by local and national artists can be bought from vending machines for £1 each.

‘Oriel Wrecsam is Moving’ will be a party to savour our organisation’s values and heritage.

‘Oriel Wrecsam is Moving’
12-4pm
Wrexham Library
Rhosddu Road
LL11 1AU

Refreshments provided

For more information you can call the gallery on 01978 292093

//////////////

Mae Oriel Wrecsam yn y broses o symud o’i lleoliad presennol yn y llyfrgell ar Ffordd Rhosddu i oriel newydd, mwy ei maint, a adeiladwyd yn bwrpasol yng nghanol tref Wrecsam. O 1 Ebrill 2015 byddwn yn dechrau ar gyfnod o gynnal prosiect teithiol mewn gwahanol leoliadau a safleoedd dros dro yn Wrecsam.

Yn ystod y cyfnod hwn bydd gan ein siop, ‘Siop//Shop’, gartref lled-barhaol newydd yn:
11 Stryt Caer,
Wrecsam
LL13 8BE

Mae ‘Siop//Shop’ yn gwerthu amrywiaeth o weithiau celf gweledol a chymhwysol gan wneuthurwyr ac artistiaid lleol yn ogystal â chan ystod amrywiol o ddylunwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Bydd detholiad tymhorol o lyfrau, printiau, cerameg, gemwaith ac anrhegion i gyd-fynd â’n harddangosfeydd a’n prosiectau parhaus yn cael eu harddangos mewn amgylchedd cyfoes, cynnes a chyfeillgar.

Bydd ‘Siop//Shop’ yn agor ar Stryt Caer ar ddydd Mercher 22 Ebrill gyda chyfres o ddigwyddiadau yn y siop, a bydd gostyngiad o 20% oddi ar holl gynnyrch y siop am gyfnod o bedwar diwrnod, i gyd-fynd â lansiad gŵyl gerddoriaeth Ffocws Cymru eleni.

Tybed a wnewch chi lenwi ein harolwg byr (https://www.surveymonkey.com/s/3Y2KP8P) i fynegi eich barn ynglŷn â’r ffaith ein bod yn symud a’r effaith y gallai hynny ei gael arnoch chi.

Mae Oriel Wrecsam yn Symud
(digwyddiad)

I ddathlu diwedd y cyswllt hir a fu rhwng Llyfrgell Wrecsam ac Oriel Wrecsam (a elwid gynt yn Llyfrgell a Chanolfan Gelf Wrecsam), byddwn yn cynnal parti symud ar ein diwrnod olaf yn yr oriel ar Ffordd Rhosddu.

Ers 1973, mae Oriel Wrecsam wedi cyflwyno arddangosfeydd deniadol, cyffrous a dadleuol weithiau, i drigolion Wrecsam a thu hwnt. Rydym hefyd wedi meithrin cysylltiadau cryf â’r cymunedau o amgylch Wrecsam, yn benodol felly gyda defnyddwyr y llyfrgell. Mae’r digwyddiad, ‘Mae Oriel Wrecsam yn Symud’ yn dathlu’r holl bethau hyn, sy’n gwneud celf yn Wrecsam mor wych, ac mae hefyd yn edrych tua’r dyfodol wrth i’r dref ddatblygu yr hyn sydd ganddi i’w gynnig yn ddiwylliannol ymhellach.

Yn y digwyddiad bydd troellwr disgiau, bydd ffilmiau’n cael eu dangos, bydd taith gerdded berfformiadol a chynhelir lansiad ein prosiect Peiriannau Gwerthu Celf newydd; lle gellir prynu gweithiau celf a gomisiynwyd yn arbennig gan artistiaid lleol a chenedlaethol o beiriannau gwerthu am £1 yr un.

Bydd digwyddiad ‘Mae Oriel Wrecsam yn Symud’ yn barti i sawru gwerthoedd ac etifeddiaeth ein sefydliad.

About the author

mike