Arts Featured

Regional Print Centre – Printmaking Scholarship Opportunities

P1000116
Posted by mike

As part of the Regional Print Centre’s commitment to artists at the early stages of their career we are offering up to 3 places on a printmaking scholarship programme ‘Proof’ starting in July until December 2014.

We are looking for FE students, Undergraduates, Graduates and Postgraduates who have an interest in printmaking and wish to develop a career in the visual arts/creative industries in Wales.

The aim of Proof is for participants to develop their individual skills and discipline in order to build a strong foundation to enable them to realise their creative potential through the medium of printmaking.

This will involve learning directly from Masters and experts in the field of contemporary printmaking and participating in Regional Print Centre activities and events (without charge) between July and December 2014. There will also be plenty of opportunities to develop your own network of contacts.

DSCN1210

Successful applicants will have the opportunity to:

  • Become a Regional Print Centre Member
  • Participate in the Centre’s summer printmaking workshop programme 2014 (6 unique workshops with a range of professional printmakers)
  • Use the print studio space during open access periods (Throughout July to December 2014).
  • Attend the Print Symposium and supporting workshop (October 2014)

Each place on the scholarship has a value of approximately £1000.00. All fees and materials costs are covered by the Regional Print Centre. Participants are responsible for their own transport and accommodation.

Successful applicants will initially have the opportunity to use the studio during open access periods and undertake the summer workshop programme (taking place during July and August 2014).

Scholarship participants are expected to provide feedback and written diary entries/reports throughout the programme which will be used on the Regional Print Centre website to advertise the scholarship and track progress.

DSCN1213

Criteria

  • You must be at least 18 years old and either a FE student, Undergraduate, recent Graduate or Postgraduate with an interest in printmaking.
  • You must be studying, live or be based in North Wales or the surrounding area (including neighbouring counties, for example Denbigh, Cheshire etc.) to apply.
  • We will also consider applications from those studying or based in Wales.
  • You will want to develop a career in the visual arts/creative industries in Wales and have a passion for creativity.

If you are interested in applying for Proof please supply the following:

  • A completed application form (see link below)
  • 6 images of recent work
  • a copy of your CV

Up to 3 places are available on the Proof scholarship via the application process.

Deadlines:


Friday 9th May 2014: Application forms and supporting documents to be returned

Please forward your application to printcentre@cambria.ac.uk before Friday 9th May 2014, marking your email Proof Application in the subject line.

Interviews will take place on Tuesday 27th May 2014 and Wednesday 28th May 2014.

As part of the interview process shortlisted candidates must attend a two day printmaking workshop at the Centre on Thursday 29th May and Friday 30th May 2014

Successful applicants to the Proof scholarship programme will be informed by Friday 6th June 2014

Proof scholarship induction: Monday 7th July 2014

Please note that the Proof scholarship will be conducted in English but we welcome applications from Welsh speakers.

The Regional Print Centre offers open access printmaking facilities, workshops, courses and events for those who are new to printmaking as well as professional development for more experienced printmakers and artists. The centre also coordinates specialist classes, lectures and demonstrations for art groups, schools, colleges and community groups.

The Regional Print Centre is a joint project, funded by Coleg Cambria and the Arts Council of Wales.

For further details contact:

Regional Print Centre, Coleg Cambria, Grove Park Road, Wrexham, Wales LL12 7AB

printcentre@cambria.ac.uk or Telephone 01978 311794 ext. 2291

For the Application form & Proof application criteria go to the Print Centre’s website and scroll to the bottom:
http://www.regionalprintcentre.co.uk/proof-scholarship/

DSCN1214

Cyfleoedd am Ysgoloriaethau mewn Argraffu 2014


Fel rhan o ymrwymiad y Ganolfan Argraffu Ranbarthol i artistiaid ar gamau cychwynnol eu gyrfa, rydym yn cynnig hyd at 3 lle ar raglen ysgoloriaeth argraffu ‘Profi’ i ddechrau ym mis Gorffennaf hyd at fis Rhagfyr 2014.

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr AB, Israddedigion, Graddedigion ac Ôl-raddedigion sydd â diddordeb mewn argraffu ac sy’n dymuno datblygu gyrfa yn y celfyddydau gweledol/diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Nod Profi yw i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u disgyblaeth bersonol er mwyn llunio sylfaen gadarn i’w galluogi i wireddu eu potensial creadigol trwy gyfrwng argraffu.

Bydd hyn yn cynnwys dysgu’n uniongyrchol gan Feistri ac arbenigwyr ym maes argraffu cyfoes ac ymuno yng ngweithgareddau a digwyddiadau’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol (yn ddi-dâl|) rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2014. Yn ogystal â hynny, bydd digon o gyfle i ddatblygu eich rhwydwaith cysylltiadau eich hun.

Rhoddir cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus i:

fod yn Aelod o’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol

ymuno yn rhaglen gweithdai argraffu’r Ganolfan yn ystod yr haf 2014

(6 gweithdy unigryw gydag amrywiaeth o argraffwyr proffesiynol)

defnyddio’r stiwdio argraffu yn ystod cyfnodau mynediad agored

(trwy gydol mis Gorffennaf hyd fis Rhagfyr 2014)

mynychu’r Symposiwm Printiau a’r gweithdy ategol

(Hydref 2014)

Mae gwerth amcangyfrifol o tua £1000 i bob lle ar yr ysgoloriaeth. Telir am yr holl ffioedd a deunyddiau gan y Ganolfan Argraffu Ranbarthol. Bydd y cyfranogwyr yn gyfrifol am eu cludiant a’u llety eu hunain.

I ddechrau, bydd cyfle gan yr ymgeiswyr llwyddiannus i ddefnyddio’r stiwdio yn ystod cyfnodau mynediad agored a dilyn rhaglen gweithdai’r haf (a gynhelir yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2014).

Disgwylir i gyfranogwyr gydag ysgoloriaeth roi adborth a chyflwyno dyddiaduron/adroddiadau ysgrifenedig trwy gydol y rhaglen a chaiff y rhain eu defnyddio ar wefan y Ganolfan Argraffu Ranbarthol i hysbysebu’r ysgoloriaeth ac i olrhain cynnydd.

Meini Prawf

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf a naill ai’n fyfyriwr AB, yn fyfyriwr israddedig, wedi graddio’n ddiweddar neu’n fyfyriwr ôl-raddedig sy’n ymddiddori mewn argraffu.

Mae’n rhaid i chi fod yn astudio, yn byw neu wedi eich lleoli yng ngogledd Cymru neu’r ardal amgylchol (gan gynnwys siroedd cyfagos, er enghraifft Sir Ddinbych, Sir Gaer ac ati) i wneud cais.

Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau gan y rheiny sy’n astudio, neu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.

Byddwch yn dymuno datblygu gyrfa yn y celfyddydau gweledol/diwydiannau creadigol yng Nghymru a byddwch yn credu’n angerddol mewn creadigrwydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais ar gyfer Profi, anfonwch y canlynol atom:

ffurflen gais wedi’i chwblhau (gweler y ddolen isod)

6 delwedd o waith diweddar

copi o’ch CV

Mae hyd at 3 lle ar gael ar ysgoloriaeth Prawf trwy’r broses ymgeisio.

Terfynau amser:

Dydd Gwener 9 Mai: Ffurflenni cais a dogfennau ategol i’w dychwelyd

Anfonwch eich cais at printcentre@yale-wrexham.ac.uk cyn dydd Gwener 9 Mai 2014, gan nodi Cais Profi yn llinell pwnc y neges.

Cynhelir cyfweliadau ddydd Mawrth 27 Mai 2014 a dydd Mercher 28 Mai 2014.

Fel rhan o’r broses gyfweld, bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer fynychu gweithdy argraffu deuddydd o hyd yn y Ganolfan ddydd Iau 29 Mai a dydd Gwener 30 Mai 2014

Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus rhaglen ysgoloriaeth Prawf erbyn dydd Gwener 6 Mehefin 2014.

Sesiwn sefydlu ysgoloriaeth Profi: dydd Llun 7 Gorffennaf 2014

Sylwer y cyflwynir ysgoloriaeth Profi yn Saesneg, ond croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Y Ganolfan Argraffu Ranbarthol

Cyniga’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol gyfleusterau argraffu mynediad agored, gweithdai, cyrsiau a digwyddiadau i’r rheiny sy’n newydd i argraffu yn ogystal â datblygu proffesiynol i argraffwyr ac artistiaid mwy profiadol, Mae’r Ganolfan hefyd yn cydlynu dosbarthiadau, darlithoedd ac arddangosiadau arbenigol i grwpiau celf, ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol.

Prosiect ar y cyd yw’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol wedi’i chyllido gan Goleg Cambria a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r

Ganolfan Argraffu Ranbarthol, Coleg Cambria, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam, Cymru LL12 7AB

printcentre@yale-wrexham.ac.uk neu ffoniwch 01978 311794 est. 2291

About the author

mike