Mae’n bleser gan Afasic Cymru, yr unig elusen yng Nghymru sy’n cynrychioli pobl ifanc a rhieni sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, gael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm i gefnogi prosiect cyffrous y Celfyddydau yng Ngogledd Cymru i bobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a’u teuluoedd.
Nod y prosiect “Datgloi Celfyddydau Lleferydd ac Iaith – y Celfyddydau’n Siarad” yw darparu amrywiaeth eang o gyrsiau a gweithdai creadigol o bob maes o’r Celfyddydau i bobl y mae angen cefnogaeth Afasic arnynt. Daw’r syniadau a’r ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect hwn oddi wrth “ein” teuluoedd sydd wedi mynychu digwyddiadau blaenorol yn gysylltiedig â’r celfyddydau. Dyma a ddywedodd Yvonne Brookes, Swyddog Datblygu Gogledd Cymru Afasic Cymru, “Bydd y prosiect hwn yn annog “ein” pobl ifanc i archwilio gwahanol ffurfiau ar gelfyddydau ac arbrofi â’r dulliau amrywiol o fynegi eu hunain ar ffurf amgen a fyddai’n anodd iddynt fel arall oherwydd eu problemau cyfathrebu. Gall y Bobl Ifanc archwilio p’un a yw’r celfyddydau’n hwyluso datblygiad a mynegiant eu syniadau, yn ogystal â chyfathrebu â’i gilydd.”
Nod y prosiect “Datgloi Celfyddydau Lleferydd ac Iaith – y Celfyddydau’n Siarad” yw cynnal cyfres o weithdai yn y ddau Glwb Ieuenctid a gynhelir gan Afasic yn Hen Golwyn a Sir y Fflint yn ystod 2013/4 a chynnal diwrnod i’r teulu yng Nghastell Bodelwyddan ar 28ain Mai 2014, a fydd yn cynnig amrywiaeth o weithdai i deuluoedd a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.
Mae angen artistiaid lleol ar Afasic i hwyluso’r gweithdai ac mae’n gofyn i BOB artist sydd â diddordeb mewn gweithio ar y prosiect i wneud cais. Dylai’r cais gynnwys y canlynol
- y cyfrwng celfyddydol a gynigir gennych ynghyd â chrynodeb bach o gynnwys eich gweithdy
- nodwch pa fath o brofiad celfyddydau cyfranogol sydd gennych
- nodwch eich profiad blaenorol e.e. pa fath o grwpiau o bobl
rydych wedi gweithio gyda hwy o’r blaen
- hyd y gweithdai e.e. diwrnod cyfan/hanner diwrnod/sesiwn
wedi’i hamseru
- argaeledd e.e. dyddiau’r wythnos ac amseroedd
- costau
Nodwch y bydd angen gwiriad diweddar y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar bob artist.
Cyflwynwch eich syniadau prosiect a’ch costau i Yvonne Brookes,
Swyddog Datblygu Gogledd Cymru drwy e-bost – Yvonne@afasiccymru.org.uk neu drwy’r post i:-
Afasic Cymru, Dolwen Lodge, Nantglyn, Dinbych
LL16 5PG
Dylai gyrraedd erbyn 22ain Awst 2013 fan bellaf
Am ragor o wybodaeth neu i ddysgu mwy am waith Afasic Cymru, cysylltwch ag Yvonne Brookes,
Rhif ffôn: 01745 550461. E-bost yvonne@afasiccymru.org.uk