General

Call all local Artists Welsh

Oriel Logo
Posted by

Mae’n bleser gan Afasic Cymru, yr unig elusen yng Nghymru sy’n cynrychioli pobl ifanc a rhieni sydd ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, gael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm i gefnogi prosiect cyffrous y Celfyddydau yng Ngogledd Cymru i bobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a’u teuluoedd.

Nod y prosiect “Datgloi Celfyddydau Lleferydd ac Iaith – y Celfyddydau’n Siarad” yw darparu amrywiaeth eang o gyrsiau a gweithdai creadigol o bob maes o’r Celfyddydau i bobl y mae angen cefnogaeth Afasic arnynt. Daw’r syniadau a’r ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect hwn oddi wrth “ein” teuluoedd sydd wedi mynychu digwyddiadau blaenorol yn gysylltiedig â’r celfyddydau. Dyma a ddywedodd Yvonne Brookes, Swyddog Datblygu Gogledd Cymru Afasic Cymru, “Bydd y prosiect hwn yn annog “ein” pobl ifanc i archwilio gwahanol ffurfiau ar gelfyddydau ac arbrofi â’r dulliau amrywiol o fynegi eu hunain ar ffurf amgen a fyddai’n anodd iddynt fel arall oherwydd eu problemau cyfathrebu. Gall y Bobl Ifanc archwilio p’un a yw’r celfyddydau’n hwyluso datblygiad a mynegiant eu syniadau, yn ogystal â chyfathrebu â’i gilydd.”

Nod y prosiect “Datgloi Celfyddydau Lleferydd ac Iaith – y Celfyddydau’n Siarad” yw cynnal cyfres o weithdai yn y ddau Glwb Ieuenctid a gynhelir gan Afasic yn Hen Golwyn a Sir y Fflint yn ystod 2013/4 a chynnal diwrnod i’r teulu yng Nghastell Bodelwyddan ar 28ain Mai 2014, a fydd yn cynnig amrywiaeth o weithdai i deuluoedd a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Mae angen artistiaid lleol ar Afasic i hwyluso’r gweithdai ac mae’n gofyn i BOB artist sydd â diddordeb mewn gweithio ar y prosiect i wneud cais. Dylai’r cais gynnwys y canlynol

 

  •   y cyfrwng celfyddydol a gynigir gennych ynghyd â chrynodeb bach o gynnwys eich gweithdy
  •   nodwch pa fath o brofiad celfyddydau cyfranogol sydd gennych
  •   nodwch eich profiad blaenorol e.e. pa fath o grwpiau o bobl

    rydych wedi gweithio gyda hwy o’r blaen

  •   hyd y gweithdai e.e. diwrnod cyfan/hanner diwrnod/sesiwn

    wedi’i hamseru

  •   argaeledd e.e. dyddiau’r wythnos ac amseroedd
  •   costau

    Nodwch y bydd angen gwiriad diweddar y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar bob artist.

    Cyflwynwch eich syniadau prosiect a’ch costau i Yvonne Brookes,

Swyddog Datblygu Gogledd Cymru drwy e-bost – Yvonne@afasiccymru.org.uk neu drwy’r post i:-

Afasic Cymru, Dolwen Lodge, Nantglyn, Dinbych

LL16 5PG
Dylai gyrraedd erbyn 22ain Awst 2013 fan bellaf

Am ragor o wybodaeth neu i ddysgu mwy am waith Afasic Cymru, cysylltwch ag Yvonne Brookes,

Rhif ffôn: 01745 550461. E-bost yvonne@afasiccymru.org.uk 

 

About the author